Polisi Cymru
Mae cynifer o’n tai yn atyniadau twristaidd pwysig, yn fusnesau bychain ac yn gyflogwyr hanfodol bwysig i economi cefn gwlad Cymru sy’n aml yn fregus tu hwnt
Mae treftadaeth yn golygu busnes
Mae Tai Hanesyddol Cymru yn cynrychioli bron i 100 o dai a gerddi sydd dan berchnogaeth annibynnol ym mhob cwr o Gymru, ac maent yn cynnwys nifer o’r mannau mwyaf eiconig a hanesyddol ein gwlad. Yn 2025 croesawodd aelodau Tai Hanesyddol Cymru dros 365,000 o ymwelwyr, gan gynnal swyddi sy’n gyfwerth â rhagor na 360 o swyddi amser llawn a chreu dros £23 miliwn yn benodol i economi Cymru. Mae llawer o’r mannau hyn yn atyniadau hanfodol bwysig i dwristiaid, yn fusnesau bychain ac yn gyflogwyr lleol yn economïau bregus
ein hardaloedd gwledig.
Canfyddiad arolwg diweddar ym mysg ein haelodau oedd mai’r heriau mwyaf cyffredin sy’n eu hwynebu yw’r gost gynyddol o redeg busnes, y cynnydd parhaol mewn rheoliadau a’r baich cynyddol yn y dreth. Heb reoliadau a deddfwriaethau cefnogol, mae ceidwaid ein treftadaeth yn wynebudyfodol ansicr.
Mae treftadaeth yn hybu iechyd, lles a thwf yn yr economi leol. Rhaid i Lywodraethau Cymru a San Steffan sylweddoli gwerth diwylliannol a chymdeithasol ein tai a’n gerddi unigryw a hanesyddol drwy lunio polisïau sy’n galluogi iddynt ffynnu.
Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru fel bod posibl llunio polisi sy’n galluogi atyniadau treftadaeth ac economïau lleol ddod yn fwy cynaliadwy, ac sy’n annog ymwelwyr i ymweld â phob cwr o Gymru.
Gofynion allweddol ein polisi yw:
1. Ymfalchïo yn nhreftadaeth gyfoethog Cymru a’i awdurdodi
Mae treftadaeth a hanes unigryw Cymru yn greiddiol i’n hunaniaeth genedlaethol ac mae trysori ein mannau hanesyddol yn hanfodol i ysbrydoli’r genhedlaeth bresennol a phlant ein plant. I warchod ein gwaddol, rhaid i ni greu fframwaith fydd yn gefn i berchnogion ein hadeiladau hanesyddol er sicrhau bod diwylliant Cymru yn goroesi a ffynnu.
2. Gwarchod ein treftadaeth rhag pwysau rheoliadau diangen
Mae ein treftadaeth yn dibynnu ar fframwaith o gefnogaeth ariannol a rheoliadol, a gall amrywiadau bychain i reoliadau ddwyn effeithiau dinistriol. Mae dros 94% o’n haelodau yn poeni am y trothwy o 182 diwrnod i letygarwch byr dymor, gan y bydd hyn bron yn amhosibl i ddarparwyr bychain mewn ardaloedd gwledig. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried lawn effaith economaidd y rheoliadau arfaethedig ar ein treftadaeth.
3. Cynnal twf yn economi twristiaeth Cymru
Mae treftadaeth yn symbylu twristiaeth a byddyn allweddol i gyrraedd targed Llywodraeth San Steffan o 50 miliwn o ymwelwyr pob blwyddyn, ond ni ddaw’r maen hwn i’r wal heb isadeiledd llwyddiannus i dwristiaeth. Mae’n gwbl hanfodol bod unrhyw incwm a daw o ardollau ymwelwyr yn cael ei neilltuo’n uniongyrchol ar gyfer y sector dwristiaeth leol.
4. Creu gwelliannau mewn cynllunio ym meysydd treftadaeth a’r amgylchedd
Mae’r blynyddoedd nesaf yn greiddiol at arwain Cymru tuag at Sero Net, sy’n gofyn i bob adeilad, hanesyddol neu fel arall, i addasu. Fodd bynnag, mae traean o’n haelodau yn poeni’n arw am y drefn gynllunio sy’n llesteirio datgarboneiddio. Rhaid cael cyllid digonol a hyfforddiant i staff cynllunio cyn y gellir cyrraedd cynllun sy’n cefnogi effeithlonrwydd mewn ynni a hynny heb beryglu ein treftadaeth.
5. Hybu buddsoddiad mewn projectau atgyweirio
Mae cynnal a chadw adeiladau hanesyddol yn hynod gostus. Dylai Llywodraeth Cymru deisyfu ar Lywodraeth San Steffan i ysgafnhau’r TAW ar atgyweirio adeiladau a chynnal a chadw atyniadau treftadaeth sydd ar agor i’r cyhoedd. Byddai cynllun o’r fath yn codi o leiaf £7 miliwn o elw net i’r Trysorlys ac yn galluogi perchnogion i fuddsoddi mewn atgyweirio hanfodol a chefnogi economïau lleol yn ogystal â gwarchod ein treftadaeth am ganrifoedd i ddod.
lawrlwythwch ein cerdyn polisi

Ymunwch â Thai Hanesyddol
Dewch i ddysgu am ein treftadaeth am ond £71 y flwyddyn.
Mae cannoedd o dai, cestyll a gerddi gogoneddus dros Gymru gyfan a gweddill y DU yn cynnig mynediad am ddim i’n haelodau.
Hefyd: cewch derbyn ein cylchgrawn chwarterol, mwynhau ein darlithoedd misol ar lein, cael gwahoddiad cyfyngedig i brynu tocynnau am deithiau tu-hwnt-i’r-llen a manteisio ar ddewis eang o gynigion arbennig am wyliau, llyfrau a nwyddau eraill fydd at eich dant.