Caer Belan yn dathlu 250 mlynedd
Bu 2025 yn flwyddyn hynod arbennig i’n haelod Caer Belan gan ei bod wedi dathlu 250 mlynedd o’i bodolaeth ym mis Gorffennaf y llynedd. Dyma’r unig aelod yng Nghymru sydd a’i gatrawd ei hun, Hwsariaid Ynys Môn. Dathlwyd yr achlysur gyda bang go iawn! Yng ngeiriau Jean Blundell, cyd-berchennog y Gaer, ‘The fort’s honour was upheld when the marauding French were defeated in exciting skirmishes!’. Rydym ni yma yn Nhai Hanesyddol Cymru yn dymuno’n dda i’r teulu Blundell a chymdeithas cyfeillion y Gaer yn eu hymdrechion i godi arian er mwyn adfer y man unigryw hwn ar lan y Fenai.

Anglesey Hussars look out to sea for French invaders at the 250the anniversary of Fort Belan