Treowen yn estyn croeso cynnes i AS Sir Fynwy Catherine Fookes
Yn dilyn Wythnos Twristiaeth Cymru, cafodd Catherine Fookes groeso twymgalon i Dreowen gan John Wheelock a Jane Harvey. Roedd Adrian Greason-Walker, Cynghorydd Polisi Tai Hanesyddol Cymru yn bresennol yno hefyd.
Trafododd John a Jane yr hanes cyfoethog sydd i Dreowen – maenordy gradd 1 sydd mewn gerddi preifat eang. Ar hyn o bryd, mae John a’i frawd Dick yn rhedeg y tŷ fel man gwyliau hunan arlwyo a lleoliad i briodasau. Mae yno ddeuddeg ystafell wely, pum lolfa, panelau helaeth, sgrin a grisiau unigryw. Yn wir, mae Trewen yn cynnig cam cofiadwy yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg. Aeth John â Catherine Fookes, AS, am dro byr o amgylch y tŷ a’r gerddi.
Dros ginio ysgafn yng nghwmni John a Jane rhoddodd Adrian grynodeb o waith Tai Hanesyddol, gan grybwyll nifer o faterion sydd heb eu datganoli; rhai megis trethiant a rheoliadau, gan gynnwys TAW, Cronfeydd Cynnal a Chadw a’r angen i greu gweithlu yng Nghymru fyddai â’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i atgyweirio adeiladau hanesyddol. Trafodwyd yn helaeth yr angen sydd ar berchnogion i allu gweithredu cynlluniau arbed ynni yn effeithiol mewn adeiladau cofrestredig.